Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cyflwyno newidiadau i’r broses gynllunio a fydd yn ei gwneud hi’n haws i ddatblygwyr gymryd cyfrifoldeb dros adeiladau neu siopau gwag yng nghanol tre’ Llanelli.

Yn ôl yr awdurdod lleol, bwriad y Gorchymyn Datblygu Lleol, a fydd yn arwain at broses gynllunio fwy syml, yw helpu i ddenu buddsoddiad i’r dref ac i gefnogi busnesau presennol yr ardal.

Bydd hyn yn cael ei wneud trwy leihau’r costau a’r amser sydd ei angen er mwyn gwneud cais cynllunio, medden nhw.

Mae’r drefn newydd yn golygu na fydd rhaid i ddatblygwyr neu ymgeiswyr gyflwyno cais cynllunio am newid defnydd.

“Mae’r broses awdurdodi syml hon yn ei gwneud yn haws i ddatblygwyr fwrw ymlaen â’u cynlluniau yng Nghanol Tref Llanelli,” meddai Mair Stephens, yr aelod sy’n gyfrifol am Gynllunio ar Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Mae’r cam yn cyd-fynd â blaenoriaethau Tasglu Tref Llanelli, sy’n cael ei arwain gan Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, y Cynghorydd Emlyn Dole.

Nod y Tasglu yw ysgogi twf a buddsoddiad drwy gynorthwyo masnachwyr, rhoi hwb i fusnesau a chynnydd nifer y siopwyr.