Mae dyn o wledydd Prydain sydd wedi’i gyhuddo o gynllunio ymosodiad brawychol yn yr Almaen, wedi ymddangos gerbron llys.

Fe gafodd Fatah Mohammed Abdullah, 33 oed, ei arestio ym mis Rhagfyr y llynedd ar ôl iddo brynu dyfeisiau ffrwydrol ar y we.

Yr wythnos ddiwethaf, fe gafodd ei gyhuddo o geisio cael dau o bobol i wneud ymosodiad terfysg yn yr Almaen yn dilyn archwiliad ar y cyd gan heddluoedd gwledydd Prydain a’r Almaen.

Dywedir ei fod wedi rhoi cymorth ac anogaeth i’r pâr mewn negeseuon gan ddefnyddio’r ap ffon Telegram.

Mae’r cyhuddiad, o dan Adran 59 o Ddeddf Terfysgaeth 200, yn datgan ei fod wedi ysgogi person arall i yrru car mewn i dorf, i ymosod ar bobol gyda chyllell cig, ac i osod bomiau tu allan i wledydd Prydain rhwng Ebrill 9 a Rhagfyr 11 y llynedd.

Fe ymddangosodd Mohammed Abdullah yn llys Ynadon Westminster drwy linc fideo o garchar Belmarsh heddiw (dydd Mercher, Chwefror 20).