Ni fydd teithwyr o dramor yn medru ymweld â Tibet am rai wythnosau, wrth i ddau ben-blwydd gwleidyddol agosáu.

Mae’r gwaharddiad wedi cael ei gadarnhau gan asiantaethau teithio o Tibet, sy’n nodi na fydd hawl gan deithwyr ymweld â’r rhanbarth tan Ebrill 1.

Mae Mawrth 10 yn dynodi 60 mlynedd ers y derfysg yn Tibet yn erbyn yr awdurdodau Tsieineaidd, tra bo Mawrth 14 yn dynodi 11 mlynedd ers y protestiadau yn ninas Lhasa.

Mae’r gwaharddiad yn cael ei gyflwyno yn flynyddol, ond mae wedi cael mwy o sylw eleni yn sgil pen-blwydd y derfysg yn 1959. Y derfysg hon a arweiniodd at alltudiaeth y Dalai Lama i India.