Mae degau ar filoedd o ddisgyblion yn eu harddegau yng ngwlad Belg wedi methu ysgol am y bedwaredd wythnos yn olynol wrth brotestio dros sefyllfa amgylcheddol y blaned.
Eu bwriad yw gwthio’r awdurdodau i gymryd camau i wella sefyllfa cynhesu byd eang.
Roedd gorymdeithiau y ninasoedd Brwsel a Liege wedi denu o gwmpas 12,500 o fyfyrwyr yr un wrth i’r symudiad ledaenu ar draws y wlad ymhlith pobol ifanc.
Yn Leuven, sy’n agos i Frwsel, roedd tua 3,000 o brotestwyr – yn cynnwys disgyblion o ysgolion cynradd.
Mae’r gorymdeithiau yn dal i gael eu cynnal er gwaethaf rhai mesurau gan ysgolion i ddatrys myfyrwyr sy’n parhau i fethu diwrnod o ysgol bob dydd Iau.
Y cefndir
Fe ddechreuodd yr holl brotest bedair wythnos yn ôl, ac fe gyrhaeddodd y niferoedd 35,000 wythnos diwethaf.
Mae’r protestiadau wedi cadw ffocws ar newid yn yr hinsawdd fel eu pwynt gwleidyddol cyn yr etholiadau cenedlaethol a rhai’r Undeb Ewropeaidd.
Ar ben y myfyrwyr, mae tua 3,400 o academyddion wedi cyhoeddi llythyr agored yn datgan eu cefnogaeth i’r symudiad.