Mae’r awdurdodau wedi dod o hyd i gyrff dwsinau o ffoaduriaid ar ôl i ddau gwch suddo oddi ar arfordir Djibouti.
Aeth oddeutu 130 o ffoaduriaid ar goll yn dilyn damwain ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 29), yn ôl yr awdurdodau. Mae’r chwilio amdanyn nhw’n parhau.
Cafodd yr awdurdodau hyd i oroeswr 18 oed oedd wedi bod ar gwch oedd yn cludo 16 o fenywod.
Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd faint o bobol oedd ar yr ail gwch.
Mae miloedd o ffoaduriaid, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n dod o Ethiopia, yn gadael Djibouti bob blwyddyn, wrth iddyn nhw anelu am wledydd y Gwlff am waith.