Mae’r Cynulliad yn treialu cynllun dychwelyd cwpanau a photeli plastig er mwyn annog pobol i roi’r gorau i ddefnyddio plastig sydd yn gallu cael ei ddefnyddio unwaith yn unig.
Bydd y cynllun, a gafodd ei gyflwyno i’r Cynulliad gan y Ceidwadwr David Melding, yn gofyn i ddefnyddwyr ddychwelyd eu cwpanau a’u poteli yn gyfnewid am flaendal a fydd yn cael ei ad-dalu wrth ddychwelyd y plastig.
Mae’r peiriannau wedi’u creu gan gwmni TOMRA.
Mae disgwyl ymgynghoriad ar y defnydd o blastig yng Nghymru a Lloegr dros yr wythnosau nesaf.
Ad-dalu blaendal
Mae cynlluniau ad-dalu blaendal am blastig eisoes ar waith mewn nifer o wledydd Ewropeaidd.
Mae’r blaendal yn amrywio o wlad i wlad, gyda defnyddwyr yn talu 8 ceiniog yn Sweden a 22 ceiniog yn yr Almaen.
Mae gwobrau ariannol yn cael eu rhoi heb i ddefnyddwyr orfod talu blaendal mewn rhai gwledydd.
“Mae gan Aelodau’r Cynulliad wir gyfle i brofi pa mor ymarferol a hygyrch y gall y system fod mewn gwirionedd,” meddai David Melding. “Mae’r math yma o gynllun mewn gwledydd eraill wedi codi cyfraddau ailgylchu i fwy na 90%.
“Fe wnaeth yr Almaen, er enghraifft, gyflwyno’r fath gynllun yn 2003 ac erbyn hyn, mae oddeutu 99% o boteli plastig yn cael eu hailgylchu.
“Mae’n gyfle rhy dda i ni ei golli, ac mae angen i ni ymrwymo i’r fath gynllun fel y gallwn ddechrau teimlo’r manteision cyn gynted â phosib.”