Mae Taiwan wedi cynnal ymarferion milwrol ar hyd arfordir dwyreiniol y wlad, mewn ymateb i fygythiadau gan Tsieina y byddai’n cipio’r wlad yn ôl dan ei grym.
Mae bwledi byw wedi’u tanio o hofrenyddion tuag at dargedau ger dinas Taichung, tra bod awyrennau rhyfel Mirage wedi codi i’r awyr o Hsinchu yng ngogledd y wlad.
Dyma’r tro cynta’ i Taiwan gynnal driliau fel hyn ers i arlywydd Tsieina, Xi Jinping, gyhoeddi ar Ionawr 2 bod Beijing yn awyddus i ddefnyddio grym milwrol er mwyn gorfodi Taiwan yn ôl o dan reolaeth Tsieina.
Mae arlywydd Taiwan, Tsai Ing-wen, yn gredwr mawr mewn annibyniaeth, ac mae’n gwrthod bygythiadau Tsieina. Mae hynny wedi arwain at bwysau ariannol, milwrol a diplomyddol gan Tsieina yn erbyn Taiwan.
Fe dorrodd Taiwan yn rhydd oddi wrth Tsieina yng nghanol rhyfel cartref yn 1949.