Mae pump o bobol wedi cael eu lladd yn Zimbabwe yng nghanol protestio dros godiad ym mhris petrol.
Roedd gwasanaethau diogelwch y wlad wedi saethu bwledi at y dorf, yn ôl grŵp hawliau dynol, wrth i nifer o fusnesau yn y brifddinas, Herare, a dinasoedd eraill gau ar ôl dydd Llun treisgar yno.
Dywed grŵp hawliau dynol hefyd fod 26 o bobol wedi cael eu hanafu gan fwled,i a bod rhai yn ofni mynd i ysbytai rhag iddyn nhw gael eu harestio.
Mae’r gweinidog diogelwch Owen Mcube yn dweud bod dros 200 o bobol wedi cael eu harestio yn dilyn y protestiadau petrol, ac mae’n beio prif wrthblaid yr MDC a grwpiau hawliau dynol cymdeithasol am ysgogi’r trais.