Mae cyn-arweinydd Hong Kong, Donald Tsang, wedi cael ei ryddhau o’r carchar, ar ôl treulio cyfnod dan glo am fethu â datgelu cynlluniau i rentu fflat moethus gan ddyn busnes a gafodd drwydded ddarlledu yn ystod cyfnod ei arweinyddiaeth.

Fe dreuliodd y gŵr 74 oed saith mlynedd yn brif weithredwr Hong Kong rhwng 2005 a 2012, ac ef yw’r swyddog uchaf ei statws i gael ei garcharu am dorri rheolau yno.

Mae’n bwriadu byw yn y fflat moethus, ar dir mawr Tsieina, wedi iddo ymddeoliad.

Roedd carchariad Donald Tsang yn 2017 yn un arwyddocaol. gan fod ei yrfa wedi pontio rhwng rheolaeth Prydain dros Hong Kong, a dychwelyd y tir i Tsieina yn 1997.

Yr wythnos ddiwethaf, fe dderbyniodd Llys Apêl Terfynol Hong Kong gyflwyniad gan gyfreithwyr Donald Tsang i wyrdroi’r ddedfryd.