M
Maes awyr Medan
ae adroddiadau bod 18 o bobol wedi eu lladd mewn damwain awyren yn Indonesia.
Mae timau achub ar eu ffordd i’r ardal fynyddig yng ngorllewin y wlad. Roedd yr awyren hanner ffordd drwy ei thaith hanner awr rhwng Gogledd Sumatra ac Aceh pan aeth i drafferthion.
Dywed pobol leol bod yr awyren wedi plymio i’r ddaear ger pentref Bahorok.
Yn ôl papur newydd y Jakarta Post, roedd yr awyren wedi gadael maes awyr Medan ond roedd y rheolwyr awyr yno wedi colli cysylltiad â hi.
Mae’r papur yn dweud bod yr awyren yn eiddo i gwmni o’r enw PT Nusantra Buana.
Roedd pedwar o blant ac 14 oedolyn ar ei bwrdd.