Mae ymgyrchwyr hawliau merched yn Sbaen wedi lleisio eu dicter tros benderfyniad llys yn Sbaen i roi mechnïaeth i ddynion am ymosodiad rhyw.

Mae’r pum dyn wedi cael dedfryd o naw mlynedd yn y carchar am ymosod ar ferch 18 oed – ond mae’r llys wedi penderfynu eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod y Goruchaf Lys yn ystyried apeliadau.

Yn ôl llys Navarra, mae’r dynion wedi cydymffurfio ag amoda mechnïaeth a osodwyd y llynedd.

Mae’r erlynydd cyhoeddus, cynrychiolwyr y ferch ac erlynwyr rhanbarthol, wedi apelio i’r Goruchaf Lys am ddedfryd drymach i’r dynion ar ben sicrhad y bydd y dynion mewn cell nes daw gwrandawiad yr apêl.

Yn ôl erlynywr, roedd y dynion wedi brolio ynglŷn â’r ymosodiad yn 2016 ar grŵp ffon ar Whatsapp o’r enw La Manada, neu’r “Pac Anifeiliaid’.