Michael Jackson
Yn Los Angeles, mae’r rheithgor yn yr achos llys yn erbyn cyn-feddyg Michael Jackson wedi clywed tâp o eiriau aneglur y canwr ac wedi gweld llun ohono’n farw yn yr ysbyty.
Roedd teulu Michael Jackson yn y llys ar gyfer dechrau’r achos yn erbyn ei feddyg, Dr Conrad Murray.
Yn y recordiad, roedd Michael Jackson, oedd dan ddylanwad cyffuriau, yn dweud: “Mae’n rhaid i ni fod yn rhyfeddol. Pan mae pobl yn gadael fy sioe, rydw i eisiau iddyn nhw ddweud, ‘dw i erioed wedi gweld rhywbeth fel hyn o’r blaen yn fy mywyd…Dw i erioed wedi gweld rhywbeth fel hyn. Mae’n syfrdanol. Ef yw’r diddanwr gorau yn y byd.”
Cafodd y recordiad ei chwarae gan yr erlyniad am y tro cyntaf yn ystod datganiadau agoriadol wrth iddyn nhw geisio portreadu Dr Conrad Murray, 58, fel meddyg esgeulus oedd wedi defnyddio anesthetig peryglus heb gymryd camau diogelwch digonol, gan adael y canwr pop 50 oed ar ei wely angau o ganlyniad.
Eisoes, roedd yr amddiffyniad wedi dweud ym mis Mehefin 2009 fod Michael Jackson wedi achosi ei farwolaeth ei hun drwy gymryd dos o gyffur oedd yn cynnwys propofol, ar ôl i Murray adael yr ystafell.
Roedd nifer o deulu Michael Jackson yn yr achos llys gan gynnwys ei dad Joseph, ei fam Katherine, ei chwiorydd LaToya a Janet a’i frodyr Jermaine, Randy a Tito.
Daeth y foment fwyaf emosiynol wrth i’r erlyniad chwarae fideo o’r canwr yn ymarfer ar gyfer ei sioe This Is It London – lle’r oedd yn canu Earth Song. Fe wnaeth yr erlyniad nodi mai dyma ei berfformiad olaf.
Mae Murray yn gwadu dynladdiad anwirfoddol. Petai’n cael ei ganfod yn euog – gallai wynebu hyd at bedair blynedd yn y carchar yn ogystal â cholli ei drwydded feddygol.