Mae disgwyl i Arlywydd Ffrainc wneud datganiad cyhoeddus ar y teledu heno (dydd Llun, Rhagfyr 10), yn dilyn wythnosau o brotestio sydd wedi achosi trafferthion mawr yn y wlad.

Mae Emmanuel Macron hefyd yn cyfarfod â swyddogion ar lefel ranbarthol a chenedlaethol er mwyn dod o hyd i ddatrysiad i’r dicter sydd gan brotestwyr yn erbyn polisïau ei lywodraeth.

Yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd Llywodraeth Ffrainc y byddan nhw’n gohirio’r cynllun amhoblogaidd i gynyddu’r dreth ar danwydd, ond mae nifer yn ystyried y cam hwn yn un sydd wedi dod yn rhy hwyr.

I nifer o brotestwyr, Emmanuel Macron ei hun yw’r broblem, a bu rhai’n galw am ei ymddiswyddiad yn ystod protestiadau ym Mharis dros y penwythnos, lle cafodd o leiaf 71 o bobol eu hanafu.

Yn ôl swyddfa’r Arlywydd, mae disgwyl datganiad gan y gŵr ei hun am 8yh heno (dydd Llun, Rhagfyr 10.)