Yn ôl canghellor yr Almaen, Angela Merkel, mae safbwynt cytûn y Cenhedloedd Unedig ar ymfudo yn “sylfaen i’n cydweithrediad rhyngwladol.”

Fe groesawodd Angela Merkel cannoedd ar filoedd o ffoaduriaid o lefydd fel Syria ag Afghanistan i’w gwlad.

Mae’n cael ei weld fel “diwrnod pwysig” ar ôl i dros 160 o wledydd gymeradwyo Cytundeb Byd-eang ar Ymfudo yng nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig yn Marrakesh, Moroco.

Dywedodd y canghellor bod hawliau dynol yn berthnasol “i bob person ar ein planed” wrth iddi gyfeirio at y 70ain blwyddyn ers y Datganiad Cyffredinol ar Hawliau Dynol sy’n cael ei ddathlu heddiw (Dydd Llun, Rhagfyr 10).

Cyfeiriodd Angela Merkel hefyd at y rhai sy’n smyglo pobol, gan ddatgan nad oes modd caniatáu iddynt reoli ffiniau gwledydd.

Fe dderbyniodd gymeradwyaeth wrth iddi gloi ei haraith gan gyfeirio at y ffaith bod y Cenhedloedd Unedig wedi ei seilio ar ganlyniadau erchyll yr Ail Ryfel Byd.