Mae’r Pab wedi derbyn ymddiswyddiad esgob o India sy’n wynebu cyhuddiadau o ddefnyddio arian eglwysig i gefnogi teulu ‘cudd’.
Mae Esgob Prasad Gallela o Cuddapah yn ne India wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn, ond fore dydd Llun (Rhagfyr 10) fe ddaeth adroddiadau ei fod wedi ymddiswyddo.
Yn ôl yr asiantaeth newyddion, Ucanews, sy’n dilyn yr Eglwys Gatholig yn Asia yn agos, fe gyflwynodd dau aelod o’r sefydliad gŵyn yn erbyn yr esgob, gan ei gyhuddo o gamddefnyddio arian er mwyn cefnogi gwraig a mab sydd yn ei arddegau.
Ond yn ôl Prasad Gallela, mae’r honiadau yn anghywir, ac mae’r ddynes sy’n cael ei hystyried yn wraig iddo ar ddogfennaeth tir ddim yn briod ag ef. Yn hytrach, roedd yn wraig i’w ddiweddar frawd.