Mae un o benaethiaid cwmni ffonau symudol o Tsieina wedi cael ei arestio gan yr awdurdodau yng Nghanada.
Fe gafodd Meng Wanzhou, pennaeth ariannol cwmni Huawei, ei harestio yn ninas Vancouver ddydd Sadwrn (Rhagfyr 1).
Dydy’r awdurdodau ddim yn gallu dweud pam y cafodd ei harestio am resymau cyfreithiol, ond maen nhw wedi cadarnhau ei fod yn wynebu cael ei hestraddodi i’r Unol Daleithiau.
Yn gynharach eleni, fe adroddodd The Wall Street Journal fod awdurdodau’r Unol Daleithiau yn ymchwilio i honiadau bod Huawei wedi torri rheolau’r sancsiynau ar Iran.
Mae Meng Wanzhou hefyd yn ddirprwy gadeirydd ar fwrdd rheoli’r cwmni, a gafodd ei sefydlu gan ei thad, Ren Zhengfei.