Mae undebau llafur a ffermwyr wedi addo ymuno â phrotest genedlaethol yn erbyn arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, wrth i gyfaddawd y llywodraeth ynglyn â phris tanwydd fethu â lleddfu dim ar y protestiadau diweddar.
Fe ddechreuodd protestiadau’r “festiau melyn” tros fwriad y llywodraeth i godi pris tanwydd, ond fe ildiodd Edouard Philippe dan bwysau tair wythnos o brotestiadau treisgar.
Nawr, mae myfyrwyr wedi cynnau tanau y tu allan i ysgolion uwchradd tros gynllun newydd o ymgeisio am lefydd mewn prifysgolion; mae perchnogion busnesau bychain wedi blocio ffyrdd mewn ymgyrch yn erbyn trethi uchel; ac mae pensiynwyr wedi bod yn gorymdeithio er mwyn protestio yn erbyn yr hyn sy’n cael ei weld fel “elitiaeth” yr arlywydd.
Bellach, mae undeb mwyaf ffermwyr Ffrainc wedi cadarnhau y bydd yn dechrau ar gyfnod o brotestio yr wythnos nesaf, tra bod undebau gyrwyr lorïau wedi galw am streic hefyd.