Mae’r byd gwleidyddol yn ffarwelio â chyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, George HW Bush heddiw.
Mae cyfres o wasanaethau’n cael eu cynnal yn Washington, yn dilyn ei farwolaeth yn 94 oed dros y penwythnos.
Ymhlith y rhai sydd wedi ymgynnull mae nifer o wleidyddion amlyca’r byd a nifer o weithwyr personol y dyn a dreuliodd ddiwedd ei oes yn nhalaith Maine.
Ymhlith y penaethiaid sydd yno mae brenin a brenhines yr Iorddonen, tywysogion Prydain a Bahrain, Canghellor yr Almaen ac Arlywydd Gwlad Pwyl.
Roedd ei gorff yn gorwedd yn gyhoeddus yn y Capitol Rotunda cyn ei gludo i Eglwys Gadeiriol Genedlaethol Washington ar gyfer ei angladd gwladol, sy’n benllanw tridiau o alaru.
Bydd ei weddillion yn cael eu claddu yn Tecsas, ochr yn ochr â’i wraig Barbara, a fu farw saith mis yn ôl ar ôl 73 mlynedd o briodas, a’u merch Robin a fu farw’n dair oed yn 1953.
Gyrfa
Roedd George HW Bush, tad y cyn-Arlywydd George W Bush, yntau’n Arlywydd Gweriniaethol ar ei wlad rhwng 1989 a 1993, cyn cael ei olynu gan Bill Clinton.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd yn gyfrifol am helpu i drawsnewid ei wlad yn dilyn y Rhyfel Oer, ac am arwain y wlad drwy Ryfel y Gwlff, toc cyn iddo golli ei sedd i’r Democratiaid.
Dim ond pedwar cyn-Arlywydd sy’n dal ar dir y byw erbyn hyn – Jimmy Carter, Bill Clinton, George W. Bush a Barack Obama.
Mae disgwyl i George W. Bush dalu teyrnged i’w dad, ac fe fydd yr Arlywydd presennol, Donald Trump yn y gwasanaeth hefyd.