Michael Jackson
Mae’r meddyg sydd wedi ei gyhuddo o ladd y canwr Michael Jackson yn mynd o flaen ei well heddiw.

Mae Conrad Murray, 58, wedi ei gyhuddo o ddynladdiad anfwriadol wedi  marwolaeth y canwr 50 oed.

Petai’n ei gael yn euog, gallai’r meddyg wynebu 4 blynedd yn y carchar a cholli ei drwydded feddygol.

Dyw Conrad Murray ddim wedi dweud llawer yn gyhoeddus hyd yn hyn, heblaw gwadu achosi marwolaeth Michael Jackson ym Mehefin 2009.

Wrth ymddangos yn y llys fis Ionawr diwethaf, mynnodd Conrad Murray ei fod yn “ddyn di-euog”.

‘Barus ac anghydwybodol’

Bydd erlynwyr yn ceisio portreadu’r dyn 58 oed fel unigolyn barus, meddyg anghydwybodol, â bywyd personol ansefydlog, a gytunodd i fod yn feddyg i Michael Jackson am 150,000 o ddoleri’r mis er mwyn arbed ei hun rhag mynd i ddyledion ariannol.

Ond mae’r cyfreithwyr dros yr amddiffyniaeth yn mynnu ei fod yn ffrind i Michael Jackson, yn gwarchod ei iechyd, yn barod i deithio i Ewrop gydag ef ar ei daith, ac yn dal i alaru dros y farwolaeth.

Pan fydd yr achos yn dechrau, fe fydd teulu Michael Jackson yn dod i eistedd yn y llys i wylio’r datblygiadau. Roedd y teulu wedi ceisio sicrhau cyhuddiad o lofruddiaeth yn erbyn y meddyg yn y lle cyntaf.

Mae cyfreithwyr  Conrad Murray hefyd yn teimlo dan ychydig o bwysau, wedi i dalp  o dystiolaeth yr oedden nhw’n gobeithio’u defnyddio, yn ymwneud â pherthynas Michael Jackson â chyffuriau, gael eu gwahardd gan y llys yn gynharach.

Ymhlith y tystion i  ymddangos gerbron  y llys heddiw fydd y cyfarwyddwr a’r dawnsiwr Kenny Ortega, a fydd yn rhoi darlun i’r llys o fisoedd olaf bywyd y canwr, wrth baratoi ar gyfer ei gyngerdd olaf, ‘This Is It’.

Dyw hi ddim yn glir eto a fydd Conrad Murray yn rhoi tystiolaeth ei hun yn yr achos.

Mae erlynwyr yn cyuhddo Conrad Murray o fod yn ddifrifol ddiofal wrth roi’r cyffur propofol i’r canwr yn ei gartref. Ond mae cyfreithwyr Murray yn ceisio profi bod Michael Jackson wedi achosi ei farwolaeth ei hun drwy gymryd y cyffur pan nad oedd y meddyg yn yr ystafell.