Putin - arlywydd eto
Mae pryder yn y byd busnes rhyngwladol ar ôl i weinidog ariannol Rwsia ymddiswyddo mewn ffrae gyda’r Arlywydd Medvedev.

Y gred yw fod cysylltiad rhwng ymddiswyddiad Alexei Kudrin a phenderfyniad y Prif Weinidog a’r Arlywydd i gyfnewid swyddi.

Ddiwedd yr wythnos ddiwetha’, yn annisgwyl, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog, Vladimir Putin, y bydd yn ceisio mynd yn ôl yn Arlywydd ac y bydd Medvedev yn cymryd ei swydd yntau.

Er y bydd etholiadau, y disgwyl yw y bydd Vladimir Putin yn ennill yn ddidrafferth.

Trydydd tymor i Putin

Fe fyddai’n golygu bod Putin yn cael trydydd tymor yn Arlywydd a Medvedev yn mynd yn ôl i’w hen swydd – roedden nhw wedi cyfnewid o’r blaen bedair blynedd yn ôl am nad oes gan neb hawl i dri thymor olynol yn Arlywydd.

Fe ddywedodd un o ffrindiau’r Arlywydd Medvedev wrthy BBC ddoe fod y cyfnewid yn atgoffa pobol o gyfnod y Comiwnyddion.

A’r disgwyl yw y bydd y marchnadoedd arian hefyd yn ymateb i’r newid – Alexei Kudrin oedd yn cael llawer o’r clod am gadw rheolaeth ar economi Rwsia yn ystod y 2010au, gan gynnwys ei amddiffyn rhag effeithiau gwaetha’r dirwasgiad.