Mae disgwyl i un o gwmniau gweithgynhyrchu mwyaf Prydain gyhoeddi bod y cwmni’n cael gwared a 3,000 o swyddi heddiw.

Bydd cwmni amddiffyn BAE Systems yn rhoi taw ar benwythnos o ddyfalu heddiw wrth gadarnhau bod 3,000 o swyddi i ddiflannu ar draws eu canolfannau yn Nwyrain Efrog a Swydd Gaerhirfryn.

Bydd y toriadau mwyaf yn cael eu gwneud yn yr adrannau hofrenyddion milwrol yn Warton a Samlesbury yn Swydd Gaerhirfryn, a Brough yn Nwyrain Efrog.

Yr amcangyfrif ar hyn o bryd yw y gallai 900 o swyddi gael eu colli yn Brough, 820 yn Warton, a 560 yn Samlesbury, gyda channoedd mwy mewn canolfannau BAE llai.

Dyw hi ddim yn glir eto sut y bydd y toriadau hyn yn effeithio ar waith BAE Systems yn y Glascoed, Sir Fynwy.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil toriadau gan y Llywodraeth yn eu cyllideb amddiffyn.

Undebau’n gandryll

Mae arweinwyr yr undebau yn dweud eu bod nhw’n gandryll bod gweithwyr wedi gorfod aros cyhyd am gadarnhad ynglŷn â thorri’r swyddi, wedi i’r newyddion gael ei ryddhau i’r wasg dros y penwythnos.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni fod “BAE Systems wedi rhoi gwybod i’n staff ein bod ni’n adolygu’n gwaith ar draws nifer o fusnesau i wneud yn siwr bod y cwmni yn perfformio mor effeithiol ac mor effeithlon a phosib, wrth ddarparu ar gyfer ein cwsmeriaid presennol, a sirchau bod y cwmni yn y sefyllfa gorau i ennill busnes yn y dyfodol.

“Tra bod llawer o drafod yn y cyfryngau, mae hi wastad wedi bod yn fwriad ac yn flaenoriaeth ganddon ni i gyflwyno canlyniadau’r adolygiad i’n gweithwyr, ac fe fydd hyn yn digwydd ddydd Mawrth, 27 Medi.”

Mae swyddfogion yr undebau wedi dweud mai toriadau yng nghyllideb amddiffyn y Llywodraeth sydd ar fai am golli’r swyddi, wrth i archebion am hofrenyddion milwrol yr Eurofighter Typhoon arafu.

Dywedodd Paul McCarthy, sy’n swyddog rhanbarthol gyda’r GMB, ei bod hi’n “warthus” bod gweithwyr wedi clywed y newyddion bod miloedd o swyddi yn y fantol drwy’r cyfryngau dros y penwythnos.

“Rydyn ni’n mynd i ofyn i’r cwmni lansio ymchwiliad swyddogol er mwyn sefydlu pwy wnaeth ryddhau’r wybodaeth i’r wasg,” meddai.

Dywedodd yr is-ysgrifennydd amddiffyn, Jim Murphy, fod y newyddion yn “ergyd ddinistriol i Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog, ac yn ergyd arall i ddiwydiant gweithgynhyrchu y DU.

“Mae angen ymateb cyflym arnon ni gan weinidogion, gyda chynllun clir ar gyfer gweithredu.”