Mae miloedd o bobl yn dathlu canmlwyddiant ers sefydlu Romania fel gwladwriaeth unedig.

Mae gorymdeithiau milwrol yn cael eu cynnal yn y brifddinas Bucharest and yn Alba Iulia, y ddinas yn Transylvania sy’n symbol o ailuno’r wlad yn 1918 ar ddiwedd y Rhyfel Mawr.

I nodi’r achlysur, mae Ysgrifennydd Gwladol America, Mike Pompeo, wedi diolch i Romania am gyfrannu at ddiogelwch byd-eang ac yn ardal y Môr Du fel aelod o Nato.

Dywedodd fel America’n sefyll ochr yn ochr â Romania yn “ei hymdrechion i gynnal gwerthoedd democrataidd a rheol y gyfraith sy’n sail i dwf a ffyniant economaidd”.

Er hyn, mae America a’r Undeb Ewropeaidd ymysg y rhai sydd wedi beirniadu diwygiad barnwrol gan lywodraeth Romania, sydd yn ôl eu honiad nhw, yn tanseilio’r frwydr yn erbyn llygredd mewn llywodraeth.