Mae plentyn yn ei arddegau wedi cael ei ladd, a dau arall wedi’u hanafu, o ganlyniad i saethu mewn canolfan siopa yn Alabama, yr Unol Daleithiau.

Fe ddigwyddodd o gwmpas 9.30y.h nos Iau (Tachwedd 22) yn y Riverchase Galleria yn Hoover, ger Birmingham.

Dywed yr heddlu bod cwffio rhwng dau berson yn eu harddegau wedi arwain at y saethu.

Fe geisiodd un ddianc cyn cael ei ddal gan heddlu Hoover a’i ladd.

Cafodd yr ail berson ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol ac mae merch 12 oed yn cael triniaeth ar ôl cael ei hanafu.