Mae pum person wedi ymosodiad ar swyddfa Tsieina yn ninas Karachi, Pacistan.

Fe laddodd y tri ymosodwr ddau heddwas yn y digwyddiad fore heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 23).

Mae Byddin Rhyddid Baluch, grwp o ymwahanwyr yn nhalaith de-orllewinol Baluchistan, wedi cymryd cyfrifoldeb am yr ymosodiad ac wedi rhyddhau lluniau o’r ymosodwyr.

Yn ôl yr awdurdodau, fe saethodd y tri tuag at warchodwyr yn y swyddfa, cyn torri i mewn trwy’r giât a chael mynediad i’r adeilad.