Mae llywodraeth yr Emiraethau Arab Unedig yn datgan bod tystiolaeth “rymus a phwerus” wedi’i chyflwyno cyn i’r academydd Matthew Hedges gael ei ddedfrydu i garchar am oes.

Cafodd y myfyriwr 31 oed o Brifysgol Durham ei gyhuddo o ysbio yn Abu Dhabi.

Mae un o brif gyfreithwyr y wlad yn dweud bod yr achos wedi cael ei ymchwilio’n drylwyr ac nad yw’r Llywodraeth yn “ceisio ymyrryd mewn achosion llys”.

Mae Ysgrifennydd Tramor Prydain, Jeremy Hunt, yn arwain ymdrechion i roi pwysau diplomyddol ar y wlad i ryddhau Matthew Hedges.

Ddoe (dydd Iau, Tachwedd 22), dywedodd ei fod wedi cael “sgwrs adeiladol” gyda’u Hysgrifennydd Tramor, Sheikj Abdullah Bin Zayed.