Mae ffoaduriaid o Hondwras wedi cyrraedd ffin yr Unol Daleithiau yn Mecsico, gan ddod wyneb yn wyneb â’r awdurdodau a waliau o weiren bigog.
Mae’r awdurodau yn Tijuana, Mecsico, wedi bod yn stryffaglu i ddelio â grwp o 357 o ffoaduriaid a gyrhaeddodd mewn naw bws ddydd Mawrth yr wythnos hon (Tachwedd 13), a grwp arall o 398 o ffoaduriaid a landiodd ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 14).
Mae Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, Jim Mattis, wedi bod ar ymweliad â’r milwyr sydd wedi’u hanfon i amddiffyn y ffin â Tecsas, gan ddweud fod eu gwaith yno yn “ymarfer da” ar gyfer rhyfel.
Ond dyw’r geiriau ddim wedi rhwystro ffoaduriaid a phobol leol rhag mynd at y ffin yn Tijuana i ddathlu.
Ddydd Mawrth, fe aeth rhai dwsinau o’r bobol at wal ddur gan weiddi “Yes, we could!”