Mynydd Everest
Chwalodd awyren oedd yn cario twristiaid dros Fynydd Everest wrth geisio glanio mewn niwl trwchus yn Nepal heddiw.

Dywedodd llygaid dystion fod 18 o gyrff wedi eu tynnu allan o weddillion yr awyren, oedd yn cario 19 o bobol.

Roedd yr awyren Beechcraft oedd yn eiddo i gwmni Buddha Air yn cario 16 o dwristiaid a tri aelod o’r criw.

Chwalodd yr awyren ym mhentref Bisankunarayan, ychydig filltiroedd yn unig i’r de o’r brifddinas, Katmandu.

Dywedodd yr heddlu fod eu swyddogion wedi cyrraedd lle y digwyddodd y ddamwain ond nad oedden nhw eto’n fodlon dweud faint oedd wedi eu lladd.

Dywedodd un llygad dyst, Haribol Poudel, fod yr awyren wedi taro to tŷ yn y pentref a bod 18 o’r bobol oedd arno wedi marw.

Roedd un dyn wedi goroesi ac aethpwyd ag ef i’r ysbyty, meddai.

Ychwanegodd ei bod hi’n niwlog iawn yno ymysg y mynyddoedd.

Roedd y twristiaid ar eu ffordd yn ôl i brifddinas Nepal ar ôl taith er mwyn gweld rhai o fynyddoedd uchaf yr Himalaya.