Mwslimiaid wedi’u hethol yn etholiadau canol tymor America am y tro cyntaf erioed, wrth i’r Gweriniaethwyr ddal eu gafael ar y Senedd.

Ond mae’r Democratiaid wedi cipio Tŷ’r Cynrychiolwyr.

Dyma’r etholiad canol tymor cyntaf ers i Donald Trump gael ei ethol yn arlywydd.

Mae menywod wedi ennill 85 sedd i gyd – y nifer mwyaf erioed.

Yn Kansas, cafodd y Democrat Sharice Davids ei hethol i fod y ddynes gyntaf o dras frodorol a’r ddynes hoyw gyntaf i’w hethol i’r Tŷ.

Y Democratiaid Ilhan Omar ym Minnesota a Rashida Tlaib ym Michigan yw’r ddwy ddynes Fwslimaidd gyntaf i’w hethol i’r Gyngres.

Deb Haaland yn Mecsico Newydd a Sharice Davids yn Kansas yw’r ddwy ddynes gyntaf o dras frodorol i’w hethol i’r Gyngres.

‘Llwyddiant ysgubol’

Wrth ymateb i’r canlyniadau, dywedodd yr arlywydd Donald Trump iddo fe a’r Gweriniaethwyr gael “llwyddiant ysgubol”.

Dim ond unwaith o’r blaen – yn 2002 – yr enillodd y blaid mewn grym ragor o seddi yn yr etholiad canol tymor.

Bydd y Gweriniaethwyr yn dal eu gafael ar y Senedd am o leiaf ddwy flynedd arall.