Mae artist wedi’i arestio yn Sbaen ar ôl paentio graffiti ar feddrod cyn-unben y wlad, Francisco Franco.

Mae fideo wedi cael ei rannu ar-lein yn dangos Enrique Tenreiro yn cyflawni’r weithred yn Nyffryn y Syrthiedig, gan baentio llun o golomen goch.

Pan gafodd ei ddal gan swyddogion diogelwch, mae’r artist i’w glywed yn gweiddi: “Er rhyddid ac er cymodi pob Sbaenwr”.

Cafodd ei arestio gan yr heddlu yn ddiweddarach, cyn cael ei ryddhau yn gynnar prynhawn ddoe (dydd Mercher, Hydref 31).

Mewn datganiad, mae Enrique Tenreiro yn ymddiheuro i unrhyw un sydd wedi cael ei sarhau gan ei weithred, ac mae’n ychwanegu nad yw’n fwriad ganddo i achosi niwed i deulu’r cadfridog.

Pwrpas y weithred oedd i dalu’n ôl am y rhyddid a gollodd cenhedlaeth ei rieni yn ystod teyrnasiad Francisco Franco rhwng 1936 a 1975, meddai.

Mae cynlluniau ar y gweill gan Lywodraeth Sbaen i symud y gweddillion i leoliad arall cyn diwedd y flwyddyn, ond mae’r bwriad hwn yn cael ei wrthwynebu gan ddisgynyddion y cyn-unben.

Mae’r beddrod wedi bod yn darged i ddrwgweithredwyr droeon dros y blynyddoedd, gan gynnwys aelodau o grŵp brawychol o Wlad y Basg yn 2005 a geisiodd ei ffrwydro.