Mae’r dyn sydd wedi’i amau o ladd 11 o bobol mewn synagog yn Pittsburgh wedi’i gyhuddo o atal pobol rhag gweithredu ar eu credoau crefyddol gan arwain at farwolaeth.
Yn ôl erlynwyr, mae Robert Bowers yn wynebu 29 o gyhuddiadau, gan gynnwys 11 achos o ddefnyddio dryll i lofruddio, troseddau arfau, a chyhuddiadau’n ymwneud ag anafu plismyn yn ddifrifol.
Cafodd chwech o bobol eu hanafu yn y digwyddiad yn ystod seremoni i enwi plentyn yn ardal Squirrel Hill. Ond doedd dim plant yn eu plith.
Dywedodd yr erlynydd y byddai’r achos yn mynd rhagddo’n gyflym.
Mae disgwyl i’r Arlywydd Donald Trump deithio i Pittsburgh, ac mae cwestiynau wedi codi unwaith eto am gyfreithiau’r wlad yn ymwneud â dryllau.
Mae’r digwyddiad yn cael ei ddisgrifio fel yr ymosodiad gwaethaf ar Iddewon yn hanes y wlad.