Mae swyddogion carchar Tecsas wedi dweud eu bod am roi’r gorau i ddarparu swper ola’ swmpus ar gyfer drwgweithredwyr sy’ ar fin cael eu dienyddio, ar ôl i wleidydd gwyno am ordor helaeth am fwyd gan lofruddiwr.

Cyn cael ei ddienyddio ddydd Mercher, roedd Lawrence Russell Brewer wedi gofyn am ddwy stecen cyw iâr, byrgig caws a bacwn, pwys o gig barbeciw, peint o hufen iâ, pitsa a ffyj.

Yn ôl swyddogion y carchar ni wnaeth Brewer gyffwrdd y bwyd.

Yn ôl y Seneddwr John Whitmore mae’r sefyllfa yn “chwerthinllyd” ac “amhriodol” ac roedd am i’r arfer ddod i ben neu mi fyddai’n ceisio deddfu i’w wahardd. Roedd y Cyfarwyddwr Carchardai Brad Livingston yn cytuno ac yn dweud bod yr arfer yn dod i ben ar unwaith.

O hyn ymlaen yn Nhecsas mi fydd carcharorion sy’ ar fin cael eu dienyddio yn cael yr un prydau bwyd a’r carcharorion eraill.