Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi gorchymyn Llywodraeth yr Eidal i ailystyried ei chyllideb.

Yn ôl y Comisiwn, mae’r gyllideb yn torri un o addewidion y wlad ynglŷn â lleihau’r ddyled gyhoeddus.

Yr Eidal sydd gyda’r ddyled ail uchaf yn Ewrop, ac mae yna bryderon y bydd ragor o wario gan lywodraeth y wlad yn arwain at broblemau ariannol ledled Ewrop.

Ond mae Llywodraeth yr Eidal yn mynnu bod angen iddyn nhw wario mwy o arian er mwyn ail-danio’r economi wedi blynyddoedd o ddirwasgiad.

“Dydyn ni ddim yn gweld opsiwn arall ond i orchymyn Llywodraeth yr Eidal i ailystyried eu cyllideb ddrafft,” meddai Dirprwy Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Valdis Dombrovskis.

Mae Prif Weinidog yr Eidal, Mateo Salvini, wedi ymateb trwy ddweud na fydd “yr un Ewro” yn cael ei gymryd o’r gyllideb.