Mae arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan, yn barod i ddatgelu popeth y bydd ei wlad yn dod o hyd iddo ar farwolaeth y newyddiadurwr, Jamal Khashoggi,
Mae diflaniad y newyddiadurwr ar ol ymweld â swyddfa Sawdi Arabia yn Istanbwl ar Hydref 2, gyda honiadau amrywiol o Dwrci a Sawdi Arabia am ran y wladwriaeth a’i ysbïwyr yn ei farwolaeth.
Ond mae’r arlywydd yn dweud ei fod am fynd at wraidd yr achos sy’n codi llawer o amheuon am rôl grŵp o ysbiwyr o Sawdi Arabia yn lladd Khashoggi cyn cuddio’r dystiolaeth.
“Bydd yr achos yn cael ei ddatgelu, a byddwn yn datgelu popeth,” meddai Recep Erdogan mewn araith o flaen aelodau ei blaid.
Mae Gweinidog Tramor Sawdi Arabia, Adel al-Jubeira, hefyd yn honni y bydd yr archwiliad i’w lofruddiaeth yn “cynhyrchu’r gwir ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd”.