Mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu wedi penderfynu gohirio’r broses o ddymchwel cartrefi ar y Lan Orllewinol er mwyn cynnal trafodaethau gyda thrigolion lleol yn gyntaf.
Fe fyddai wedi wynebu beirniadaeth ryngwladol pe bai wedi bwrw ymlaen gyda’r cynlluniau.
Mae nifer o wledydd Ewropeaidd eisoes wedi galw am beidio â dymchwel Khan al-Ahmar, gyda phrif erlynydd y Llys Troseddol Rhyngwladol yn mynd mor bell ag awgrymu y gallai fod yn drosedd ryfel.
Mae swyddogion Israel wedi dweud bod y llywodraeth bellach yn ystyried opsiynau eraill – cyhoeddiad sydd wedi denu cryn feirniadaeth gan bleidiau eraill y wlad sy’n galw am weithredu’n benderfynol.
Dywedodd nad ymateb di-ben-draw yw gohirio’r broses, ac fe fydd ei Gabinet yn penderfynu am ba hyd y bydd y broses yn cael ei gohirio.
Mae’r llywodraeth wedi cynnig symud trigolion i gartrefi cyfagos gyda mwy o adnoddau nag sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd.
Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud mai Israeliaid yn unig, ac nid Palestiniaid, fydd yn cael cartrefi ar y safle newydd.