Mae Prif Weinidog Sweden yn cael cyfle i ffurfio llywodraeth newydd ar ôl i arweinydd yr wrthblaid fethu â dod i gytundeb â’i gabinet.

Mae Stefan Lofven wedi bod yn arwain llywodraeth dros dro ers i bleidlais o ddiffyg hyder gael ei chynnal yn ei erbyn yn dilyn etholiad cyffredinol y wlad fis diwethaf.

Erbyn hyn, mae llefarydd y Senedd yn Sweden, Andreas Norlen, wedi rhoi pythefnos i Stefan Lofven ffurfio llywodraeth glymbleidiol newydd.

Ni enillodd yr un blaid fwyafrif clir yn ystod yr etholiad cyffredinol ar Fedi 9.

Mae’r pleidiau mwyaf, sef y Democratiaid Cymdeithasol, sy’n cael ei harwain gan Stefan Lofven, a’r grŵp asgell chwith-ganolig, sy’n cael ei arwain gan Ulf Kristersson o blaid y Cymedrolwyr, wedi gwrthod cydweithio â Phlaid Ddemocrataidd Sweden, sy’n tueddu at yr asgell-dde.

Mae Stefan Lofven wedi apelio ar bleidiau eraill i ffurfio clymblaid â’i blaid ef.