Mae dynes o Ffrainc sy’n mynnu gwisgo penwisg Islamaidd, er gwaetha’r gwaharddiad cenedlaethol, wedi dweud y bydd yn ymgeisio am yr arlywyddiaeth yn etholiadau’r wlad y flwyddyn nesaf.

Yn ôl Kenza Drider, mae hi eisiau gwarchod hawliau pob merch yn Ffrainc.

Mae hi ymhlith grŵp o fenywod sydd yn ymgyrchu yn erbyn deddf a gyflwynwyd ym mis Ebrill sy’n gwahardd unrhyw un rhag gwisgo penwisg Fwslimaidd ar strydoedd Ffrainc.

Maen nhw’n ceisio profi bod y ddeddf yn mynd yn erbyn eu hawliau dynol.

Mae cefnogwyr y ddeddf, gan gynnwys yr Arlywydd presennol, Nicolas Sarkozy, yn honni bod y penwisgoedd yn “carcharu” menywod.

Dywedodd Kenza Didier ei bod hi’n bwriadu cyhoeddi ei hymgyrch arlywyddol yfory yn Meaux – dinas sydd i’r dwyrain o Baris ac sy’n cael ei redeg gan y gwleidydd ceidwadol, a ffrind agos Sarkozy, Jean-Francois Cope, a fu’n gyfrifol am ymgyrchu dros y ddeddf.

Fe fydd dwy ddynes arall a gafodd eu hatal rhag gwisgo penwisgoedd yn gyhoeddus yn wynebu’r llys yfory, hefyd yn Meaux.