Troy Davis
Mae talaith Georgia yn yr Unol Daleithiau wedi dienyddio dyn oedd wedi ei gyhuddo o ladd heddwas.

Daw dienyddiad Troy Davis er gwaethaf ymgyrch i’w achub, a chefnogaeth gan y cyn-Arlywydd, Jimmy Carter, y Pab, ac enwogion.

Roedd y carcharor yn parhau i honni ei fod yn ddieuog nes y diwedd, ond dywedodd teulu’r heddwas fod ganddyn nhw gyfiawnder ar ôl 22 mlynedd.

Fe fu farw Troy Davis am 11.08pm (4.08am amser Cymru), 15 munud ar ôl derbyn y pigiad marwol.

Dedfrydwyd ef i farwolaeth am ladd Mark MacPhail yn 1989. Cafodd yr heddwas ei saethu wrth geisio achub dyn digartref yr oedd Troy Davis ac eraill yn ymosod arno.

Cyn marw dywedodd Troy Davis wrth berthnasau Mark MacPhail nad ei fai ef oedd y llofruddiaeth yn 1989.

“Doedd gen i ddim dryll,” mynnodd.

“Gobeithio y bydd Duw yn maddau i’r rheini sydd ar fin cymryd fy mywyd oddi arna’i.”

Yn ôl cyfreithwyr Troy Davis roedd saith o’r naw llygad dyst oedd wedi rhoi tystiolaeth yn ei erbyn yn anghytuno ynglŷn â rhai ffeithiau sylfaenol.

Ond penderfynodd barnwyr taleithiol a ffederal beidio â chaniatáu iddo gael achos llys newydd.