Mae arweinydd Gogledd Corea Kim Jong Un am weld pennawth yr Eglys Gatholig yn ymweld â’i wlad, yn ôl swyddogion De Corea.
Yn ol adroddiadau, roedd Kim Jong Un wedi dweud wrth arlywydd De Corea, Moon Jae-yn yn ystod eu huwchgynhadledd y mis diwethaf y byddai’r Pab yn cael ei “croeso brwdfrydig” yng Ngogledd Corea.
Mae Kim Jong Un wedi mynd ati’n fwriadol yn ystod misoedd yr haf eleni i greu cysylltiadau gyda gwledydd eraill y byd. Ac er y gwahoddiad i’r Pab Ffransis, mae Gogledd Corea yn swyddogol yn wlad anffyddiol ac mae’n rheoli gweithgareddau crefyddol yn llym.
Er i wahoddiad tebyg gael ei estyn i’r Pab Ioan Paul II yn 2000, wnaeth hynny erioed arwain at ymweliad na chyfarfod.
Mynnodd y Fatican ar y pryd y byddai ymweliad Pabyddol yn bosib dim ond pe bai offeiriaid Catholig yn cael eu derbyn yn y wlad.