Mae Senedd Canada wedi penderfynu diddymu hawl y gwleidydd, Aung San Suu Kyi, i fod yn ddinesydd o’r wlad.
Maen nhw wedi penderfynu gwneud hyn oherwydd eu bod yn credu bod gan Brif Weinidog Burma ran yn y troseddau sydd wedi’u cyflawni yn erbyn pobol y Rohingya.
Fe dderbyniodd Aung San Suu Kyi ddinasyddiaeth er anrhydedd gan Canada yn 2007, ond yn dilyn pleidlais yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Hydref 2).
Dyma’r tro cyntaf erioed i ddinasyddiaeth o’r fath gael ei diddymu gan Ganada.
‘Hil-laddiad’
Mae ymchwiliad gan y Cenhedloedd Unedig fis diwethaf wedi dod i’r casgliad bod byddin Burma wedi bod yn gyfrifol am farwolaeth miloedd o bobol Rohingya.
Mae’r fyddin yn euog, meddai’r ymchwiliad, o ladd nifer o gymunedau y garfan hon o bobol ac ymgymryd â phuredigaeth ethnig.
Maen nhw wedi galw am erlyn cadfridogion y fyddin am y troseddau.
Mae’r Tŷ Cyffredin yng Nghanada hefyd wedi pleidleisio o blaid y ffaith y dylai troseddau dynol y wlad gael eu cyfri’n ‘hil-laddiad’.