“Brawychiaeth economaidd” yw ymdrechion yr Unol Daleithiau i godi sancsiynau ar Iran, yn ôl arlywydd y wlad.

“Awdurdodaeth. Dyna’r gair am sut mae’r Unol Daleithiau yn mynd i’r afael â gwleidyddiaeth ryngwladol,” meddai Hassan Rouhani wrth annerch y Cenhedloedd Unedig.

“Trechaf treisied, yn eu barn hwy. Maen nhw’n bwlio ac yn ein gormesu ni oherwydd mai dyna sut maen nhw’n deall pŵer.

‘Dydyn nhw ddim yn poeni am awdurdod cyfreithiol.”

Fe fu arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, hefyd yn annerch Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedi yn Efrog Newydd, gan gynnig beirniadaeth hallt o Iran.

Mewn araith hanner awr o hyd, dywedodd bod “arweinwyr Iran yn lledaenu anhrefn, marwolaeth a dinistr” a’u bod yn “amharchu” y gwledydd o’u cwmpas.

Mae Donald Trump wedi addo ynysu Iran oddi wrth weddill y byd trwy osod sancsiynau arnyn nhw, ac mae disgwyl i ragor o’r rheiny ddod i rym ym mis Tachwedd.