Bydd Jeremy Corbyn yn datgelu ei gynllun ar gyfer “chwyldro swyddi gwyrdd” wrth annerch cynhadledd ei blaid heddiw (dydd Mercher, Medi 26).
Gerbron aelodau yn Lerpwl, mae disgwyl i arweinydd y Blaid Lafur alw am fuddsoddi mewn ynni gwynt a solar, gan addo y gallai 400,000 o swyddi gael eu creu yn sgil hynny.
Byddai’r cynllun yn annog cwmnïau preifat i ddyblu’r swm y maen nhw’n buddsoddi mewn tyrbinau gwynt ar y tir, a threblu eu buddsoddiad mewn ynni solar.
Hefyd, byddai £12.8bn yn cael ei fuddsoddi mewn rhaglen insiwleiddio, gyda’r nod o leihau defnydd ynni ar wres.
Sgandinafaidd
“Dan ein cynlluniau ynni, Prydain fyddai’r unig wlad ddatblygedig – y tu allan i Sgandinafia – a fyddai’n debygol o ddiwallu ei hymrwymiad newid hinsawdd,” meddai.
“Er mwyn gwneud hynny, rhaid gweithio â’r undebau sy’n cynrychioli’r gweithlu er mwyn sicrhau bod swyddi a sgiliau yn cael eu hamddiffyn, wrth i ni symud tuag at economi carbon isel.
“Hefyd, bydd rhaid gweithio â diwydiant er mwyn newid y ffordd yr ydyn ni’n adeiladu, hyfforddi ein gweithlu, addasu tai, ac yn gweithio.”