Mae pleidleiswyr yn y Swistir wedi gwrthod dwy ddeddf newydd a fyddai wedi tynhau rheolau’n ymwneud â bwyd yn y wlad.
Byddai’r cynllun Bwyd Teg wedi ei gwneud hi’n ofynnol i’r llywodraeth hyrwyddo bwyd sydd wedi ei gynhyrchu’n deg, i safon uchel yn amgylcheddol ac ystyriol o anifeiliaid. Gallai fod wedi golygu anfon arolygwyr o’r Swistir i deithio dramor i archwilio bwyd.
Roedd y cynnig arall, y cynllun Sofraniaeth Bwyd, yn ceisio cynnal lefel cyflogau ffermwyr a sicrhau bod bwyd a gaiff ei fewnforio yn cyrraedd safonau’r Swistir.
Mae’n ymddangos bod pryderon am gostau, gwrthwynebiad y llywodraeth a ffactorau eraill wedi troi’r cyhoedd yn erbyn y cynigion. Roedd y llywodraeth wedi dadlau y gallai’r cynllun Bwyd Teg gyfyngu ar ddewis, codi prisiau a pheryglu cytundebau masnachol rhwng y Swistir a phartneriaid masnachol.