Mae dynion arfog wedi ymosod ar barêd blynyddol yn Iran, gan ladd beth bynnag wyth o aelodau brigâd y Gwarchodwyr Chwyldroadol.
Does yr un grwp eto wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad yn Ahvaz, lle bu tanio i ganol torf o filwyr a oedd yn gorymdeithio o flaen swyddogion y llywodraeth a phobol gyffredin.
Mae asiantaeth newyddion IRNA yn y wlad yn dweud fod 25 o bobol wedi’u lladd yn y digwyddiad.
“Fe fydd Iran yn ymateb yn sydyn ac yn gadarn er mwyn amddiffyn bywydau ei phobol” meddai llywodraeth y wlad ar Twitter.