Mae Hong Kong wedi agor rheilffordd gyflym sy’n ei chysylltu â Tsieina.
Ond mae hyn, yn ôl gwrthwynebwyr, yn codi cwestiynau am ddylanwad y llywodraeth yn Beijing tros y rhanbarth sydd â hunan-lywodraeth.
Mae’r prosiect wedi costio dros £7bn ac wedi cymryd wyth mlynedd i’w adeiladu, a’r bwriad ydi cario mwy na 80,000 o deithwyr bob sydd o Hong Kong i dalaith Guangdong, ‘hwb’ gweithgynhyrchu Tsieina.
Mae’r trenau cyflym yn gallu teithio’r 16 milltir trwy Hong Kong i Shenzhen, mewn dim ond 14 munud – o gymharu â’r awr yr oedd yn arfer ei gymryd.