Mae o leia’ 44 o bobol wedi marw ar ôl i long fferi droi drosodd yn Llyn Fictoria yn Tanzania.
Mae disgwyl i nifer y meirw godi pan fydd y timau achub yn ail-ddechrau eu gwaith yn y bore.
Cafodd 37 o bobol eu hachub ar ol i’r llong suddo bnawn dydd Iau (20 Medi).
Nid yw’n glir faint o bobol oedd yn teithio ar fwrdd y llong ond mae llongau fferi o’r fath yn aml yn cludo cannoedd o bobol ac yn orlawn.
Roedd y fferi yn teithio rhwng Ukara a Bugolora ac wedi troi drosodd yn ardal Mwanza.
Mae damweiniau yn digwydd yn aml yn y llyn sy’n cael ei amgylchynu gan Tanzania, Kenya ac Uganda.