Mae henebion Eifftaidd sy’n dyddio o’r cyfnod rhwng 320CC a 30CC wedi cael eu darganfod yn ninas Aswan.

Maen nhw’n cynnwys cerfluniau o gorff llew a phen dynol.

Cawson nhw eu darganfod yn nheml Kom Ombo yn ystod gwaith atgyweirio ar y safle.

Mae’r fath ddarganfyddiadau’n rhoi cryn hwb i ddiwydiant twristiaeth y wlad yn dilyn blwyddyn ansefydlog yn 2011 yn sgil gwrthryfel gwleidyddol.