Mae pwysau ar Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Jeremy Hunt i ymyrryd yn achos milwr o Loegr sydd wedi’i garcharu yn Nhwrci am ymladd yn erbyn Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’.

Mae Joe Robinson, 25 o Swydd Gaerhirfryn, wedi’i garcharu am saith mlynedd a hanner ar ôl cefnogi gwrthryfelwyr Cwrdaidd – criw sy’n cael ei ystyried yn un anghyfreithlon a brawychol gan lywodraeth Twrci.

Dydy’r criw ddim wedi’u gwahardd yng ngwledydd Prydain, ac fe dreuliodd Joe Robinson fis gyda nhw yn Syria yn darparu cymorth meddygol i bobol gyffredin.

Mae ar fechnïaeth ar hyn o bryd yn aros i glywed ei dynged.

Ymhlith y rhai sy’n galw ar Jeremy Hunt i ymyrryd mae Mira Rojkan, dyweddi Joe Robinson. Cafodd y ddau eu harestio ar eu gwyliau y llynedd.

Cafodd hithau ddedfryd ohiriedig am gymryd rhan mewn propaganda brawychol ar ôl rhannu negeseuon ar wefannau cymdeithasol oedd yn cefnogi’r Cwrdiaid.