Mae’r Unol Daleithiau yn bygwth gosod sancsiynau yn erbyn y Llys Troseddau Rhyngwladol os y bydd hwnnw’n ymchwilio i weithredoedd byddin America yn Afghanistan.

Nod y llys – corff a gafodd ei sefydlu i erlyn troseddwyr rhyfel – yw ymchwilio i honiadau o artaith a charcharu anghyfreithlon, yn erbyn milwyr a staff cudd-wybodaeth.

Ond, mae Cynghorydd Diogelwch yr Unol Daleithiau, John Bolton, wedi mynnu y bydd America yn “gwrthwynebu erlyniad anghyfiawn y llys annilys hwn”.

“Mae’r Llys Troseddau Rhyngwladol yn bygwth sofraniaeth America a buddiannau yr Unol Daleithiau,” meddai. “Ac mae hynny’n annerbyniol”.

“Wnawn ni ddim cydweithredu â’r ICC. Mewn gwirionedd, mae’r ICC yn farw i ni yn barod.”