Mae lluoedd heddlu Cymru a Lloegr yn ei “chael hi’n anodd darparu gwasanaeth effeithiol” i’r cyhoedd, yn ôl adroddiad.
Mae’r ddogfen gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO) yn tynnu sylw at y ffaith bod llai yn cael eu harestio, a bod llai o droseddwyr yn cael eu cyhuddo.
Hefyd, mae’n debyg bod llai o bobol yn hapus â safon gwasanaeth yr heddlu, tra bod lefelau staff a chyllid ar gwymp.
“Mae yna arwyddion bod lluoedd eisoes yn wynebu straen ariannol, a’u bod yn cael trafferth darparu gwasanaethau effeithlon i’r cyhoedd,” meddai Amyas Morse, pennaeth yr NAO.
“Fydd y Swyddfa Gartref ddim yn medru cyfeirio adnoddau at le mae eu hangen, os na fyddan nhw’n talu sylw i’r hyn sy’n digwydd.
“Ac mae’n bosib y gallai’r sefyllfa waethygu.”
Canfyddiadau
- Yn ystod y flwyddyn hyd at Fawrth 2016, roedd 29% o bobol a gafodd eu targedu gan droseddwyr yn anhapus ag ymateb yr heddlu
- Cynyddodd y ffigur hwn i 33% erbyn y flwyddyn hyd at Fawrth 2018
- Mae’r heddlu wedi bod yn cynnal llai o brofion anadl ers 2010
- Yn ystod y flwyddyn hyd at Fawrth 2016, roedd unigolion sydd ar amheuaeth o gyflawni trosedd yn derbyn cyhuddiad o fewn 14 diwrnod
- Cynyddodd hyn i 18 diwrnod erbyn y flwyddyn hyd at Fawrth 2018