Mae cyn-Arlywydd Zimbabwe, Robert Mugabe, wedi cymodi â’r dyn sydd wedi cymryd ei le.
Roedd y gŵr 94 oed wedi gwrthod cydnabod Emmerson Mnangagwa yn Arlywydd, gan ddweud na fyddai’n cefnogi ei blaid yn yr etholiad cyffredinol ddiwedd mis Gorffennaf.
Ond mewn datganiad sydd wedi’i ryddhau gan y cyn-Arlywydd, mae’n dweud ei fod yn “derbyn y canlyniadau” ac yn “parchu dymuniad y bobol.”
Mae Emmerson Mnangagwa wedi bod yn Arlywydd ar Zimbabwe ers mis Tachwedd y llynedd, gyda Robert Mugabe yn honni ei fod wedi cael ei ddisodli ganddo.
Mae’r wrthblaid yn Zimbabwe yn honni bod canlyniadau’r etholiad cyffredinol yn ddadleuol, er gwaetha’r ffaith bod llys y wlad wedi gwrthod derbyn her gyfreithiol am y mater.